Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad i Raglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’

 

Ar ôl yr etholiadau lleol ar 4ydd Mai, mae rhaid inni aros am ganlyniad cyfarfod cyffredinol blynyddol pob awdurdod lleol cyn pennu dyraniad gwleidyddol WLGA yn ei chyfarfod cyffredinol blynyddol hithau ddydd Gwener 23ain Mehefin.  Yn ystod y cyfarfod hwnnw, byddwn ni’n ethol arweinyddion a llefarwyr newydd, hefyd.

 

Hoffen ni ymateb i’ch cais am dystiolaeth yn y cyfamser, fodd bynnag, er cymorth i’r pwyllgor.  Barn y swyddogion am Raglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ yw hyn, felly.

 

Rhannau llwyddiannus ac aflwyddiannus o’r rhaglen

 

Mae sawl rhan fuddiol o’r rhaglen.  Gan fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo arian ar ei chyfer dros gyfnod cymharol hir, gallai’r gweithwyr a’r partneriaid ganolbwyntio ar feysydd penodol ledled y wlad a chreu brand cryf ac adnabyddus yn y cymunedau ac ymhlith proffesiynolion amrywiaeth helaeth o gyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol.

 

Roedd rhai o’r farn bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rhaglen hon wneud gormod yng ngoleuni’r ffaith bod sawl math o amddifadedd yn yr ardaloedd roedd yn ymwneud â nhw.  Roedd amcanion yn aneglur o’r dechrau am nad oedd neb yn siŵr a oedd y rhaglen yn ymwneud â helpu pobl, hybu lleoedd, meithrin adnoddau, creu swyddi, datblygu’r economi neu ddatblygu cymunedau.  Mae lle i ddadlau bod amcanion aneglur a disgwyliadau anymarferol wedi amharu ar enw da’r rhaglen ac arwain at feirniadaeth nad oedd wedi newid bröydd difreintiedig er gwell.  Daw staff y rhaglen o sawl cefndir ac mae hynny wedi effeithio ar y gwaith ar lawr gwlad ac ar lwyddiant rhai prosiectau am fod gan rai swyddogion allu naturiol i ymgysylltu â phobl a chymunedau mae amryw fathau o anghenion arnyn nhw, ac nad oes gallu o’r fath gan swyddogion eraill.

Wedi dweud hynny, rhoes y rhaglen lawer o gymorth i gymunedau dros y degawd cyntaf a daeth y staff i ddeall materion yn drylwyr.  Mae’r rhaglen yn dibynnu’n fawr ar berthynas ei staff â chymunedau ac maen nhw wedi meithrin ymddiried yn raddol.  Mae gan y staff allu i ymgysylltu â charfanau anodd eu cyrraedd ac maen nhw’n ffynhonnell allweddol ynglŷn ag anfon pobl i wasanaethau priodol ar gyfer cymorth.  Gan fod y staff yn gwybod beth mae’r amryw wasanaethau’n ei gynnig, maen nhw mewn sefyllfa unigryw i ddewis adnoddau sy’n gweddu i anghenion pobl a grwpiau.

 

Prif fyrdwn cam cyntaf y rhaglen oedd cynnig cymorth i leoedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.  Ers newid y sylw i ganolbwyntio ar ffyniant, dysgu ac iechyd, mae rhai prif elfennau megis sefydlu partneriaethau a grymuso pobl a chymunedau yn llai pwysig ac mae hynny wedi cyfyngu ar ei ffordd o weithio.

 

Mae’n anodd pwyso a mesur effaith y rhaglen ac, felly, mae’n anodd cyfiawnhau parhau i’w hariannu.  Mae gwaith staff y rhaglen wedi amrywio’n fawr ledled y wlad ac, o ganlyniad, fe fydd angen dulliau mesur cymhleth.  Mae fframwaith nodi cyflawniad y rhaglen wedi’i wella dros y blynyddoedd diwethaf hyn gan gynnwys astudio achosion unigol – a rhaid croesawu hynny.  Gan fod gofyn i nodi’r hyn oedd wedi’i gyflawni yn ôl dangosyddion allweddol, fodd bynnag, doedd dim llawer o hyblygrwydd yn yr asesu.

 

Nid pob awdurdod lle mae’r rhaglen ar waith yn ei ardal sy’n gyfrifol am gyflawni ei nodau.  Er bod gwaith y rhaglen a’r awdurdod wedi’i gydlynu mewn achosion o’r fath, roedd tuedd i ganolbwyntio ar brosiectau unigol yn hytrach nag ystyriaethau strategol.  Efallai fod amryw gyfleoedd i gydweithio mewn strategaethau a chynlluniau wedi’u colli o ganlyniad.

 

Sut y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau sydd i’w hariannu o hyd ar ôl mis Mehefin 2017?

 

Dim ond £6 miliwn y flwyddyn fydd ar gael i Gronfa’r Etifeddiaeth yn 2018/19 a 2019/18 ac mae bwriad i ddyrannu’r arian hwnnw yn ôl cyllideb bresennol y rhaglen.  Felly, bydd angen i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer sawl gorchwyl, yn ôl pob tebyg.

 

Mae sawl awdurdod lleol yn gweithio trwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ôl proses a fydd yn nodi’r hyn sy’n unigryw i Raglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’, yr hyn allai gael ei golli a’r hyn na all sefydliadau eraill ysgwyddo cyfrifoldeb amdano.  Dyna fan cychwyn neilltuo arian ar gyfer prosiectau sydd wedi’u hetifeddu.

 

I’w galluogi i roi dewisiadau gerbron byrddau gwasanaethau cyhoeddus, mae awdurdodau lleol yn trafod hynny gyda’u partneriaid i bennu’r hyn y bydd yn bwysig ei gadw.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau pontio sy’n sôn am gynllunio ar gyfer dirwyn prosiectau i ben a’r goblygiadau i weithwyr.  Er bod y ddogfen yn awgrymu y dylai’r awdurdodau lleol ystyried trosglwyddo staff allweddol i adrannau eraill, does ynddi unrhyw gydnabyddiaeth o brinder adnoddau na’r ffaith y gallai gweithwyr (y rhai gorau, yn ôl pob tebyg) fynd i swyddi eraill gan amharu ar y gallu i gyflawni gwaith dros gyfnod y pontio – problem sy’n gyffredin i sawl rhaglen pan ddaw i ben.


 

Rhaid cofio’r effaith ar ysbryd staff y rhaglen, hefyd.  Gallai Cronfa’r Etifeddiaeth ac amryw gronfeydd eraill helpu i leddfu hynny trwy dawelu eu meddyliau ond rhaid rhoi gwybod i’r gweithwyr am eu tynged cyn gynted ag y bo modd i osgoi colli pobl brofiadol iawn.  Mae’r awdurdodau lleol wedi gofyn i Lywodraeth Cymru roi rhagor o wybodaeth am ei bwriad i barhau i ariannu prosiectau a swyddi yn ddiymdroi i’w helpu i gynllunio ar gyfer y gweithlu.

 

Bydd y grant newydd ar gyfer cyflogi gweithwyr ar gael i awdurdodau lleol nad yw Rhaglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ ar waith yn eu hardaloedd – Sir Fynwy, Ceredigion a Phowys.  Gan nad oes rhaglen y gallan nhw ychwanegu ati, bydd yn bwysig rhoi’r cymorth a’r adnoddau priodol i’w galluogi i fanteisio ar yr arian sydd ar gael.

 

Sut y bydd amryw raglenni lleddfu tlodi (Cymunedau er Gwaith, Dechrau’n Deg ac ati) yn newid o ganlyniad i Raglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ ddod i ben?

Mae llawer o’r cyfryw raglenni wedi’u sefydlu ar ôl Rhaglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ ac maen nhw wedi elwa ar ei rhwydweithiau a’i harwyddbyst.  Bydd pwysigrwydd ei rôl yn eglurach ar ôl ei dirwyn i ben.  Mae’r rhaglen wedi’i chysylltu â sawl rhwydwaith mewn sawl ffordd wahanol, a bydd angen i’r rhaglenni sydd ar ôl ac unrhyw fentrau newydd fod yn hyblyg er mwyn gofalu y bydd modd llenwi unrhyw fylchau yn gyflym.